Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg

Llysgenhadon - Ffion Evans, Bronwen Anderson a Cheslea-Anne Morris-Jones

Llysgenhadon yn eu siwmperi Coleg Cymraeg - Ffion Evans, Bronwen Anderson a Cheslea-Anne Morris-Jones

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi llysgenhadon yn flynyddol er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Eleni mae 24 llysgennad wedi’i lleoli mewn prifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys tair o Brifysgol Abertawe. Llongyfarchiadau mawr i Cheslea-Anne Morris-Jones sy’n astudio Cymraeg a Hanes, Bronwen Anderson sy’n astudio’r Gyfraith a Ffion Evans, sy’n astudio Biocemeg.

Bydd y llysgenhadon yn cynrychioli’r Coleg mewn amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau, gan hefyd gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal cyflwyniadau mewn ysgolion er mwyn rhoi blas o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg i’r disgyblion.