Cyfrol newydd ym maes y Gyfraith a fydd yn trawsnewid dysgu’r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfrol gyntaf yng nghyfres 'Hanfodion y Gyfraith' yn sicrhau y bydd gwerslyfr Cymraeg i bawb sy'n dilyn cwrs gradd yn y Gyfraith.

Sylfeini'r Gyfraith Gyhoeddus

“Anrhydedd fawr oedd cael fy ngwahodd i fod yn awdur Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus, ”meddai Keith Bush, Athro er Anrhydedd yng Ngholeg Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe. Hon yw’r gyfrol gyntaf yng nghyfres 'Hanfodion y Gyfraith' a fydd, gobeithir, yn trawsnewid dysgu’r Gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion, colegau ac hyd yn oed ysgolion.

Nod y gyfres, sy’n un o brosiectau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw sicrhau y bydd gwerslyfr Cymraeg ar gael i fyfyrwyr ym mhob un o’r pynciau craidd y mae angen i bawb sy’n dilyn cwrs gradd yn y gyfraith eu meistroli. Hyd yma, bu’n rhaid i unrhyw un oedd am astudio’r gyfraith gyhoeddus yn Gymraeg ddefnyddio gwerslyfrau Saesneg, ynghyd â deunyddiau Cymraeg a baratowyd gan ddarlithwyr unigol. Eisoes mae ysgolion y Gyfraith yn y prifysgolion hynny sy’n cynnig cyrsiau cyfraith gyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda Phrifysgol Abertawe yn eu plith,  wedi medru cyfeirio myfyrwyr at Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus. Ynddi ceir esboniad Cymraeg o egwyddorion y pwnc, sy’n defnyddio terminoleg safonol ar gyfer y cysyniadau technegol perthnasol. Ceir hefyd yn y gyfrol awgrymiadau ar gyfer cwestiynau perthnasol y gellid eu trafod mewn seminarau.

“Mewn un ffordd,” meddai’r Athro Bush, “dylai’r dasg o drin Cyfraith Gyhoeddus yn y Gymraeg fod yn gymharol hawdd. Cafwyd trafodaeth yn y Gymraeg ar bynciau sy’n ymwneud â llywodraeth ers canrifoedd ac felly yn y rhan fwyaf o achosion roedd y gair Cymraeg a ddylai gyfateb i derm Saesneg safonol yn hollol amlwg. Ac yn yr achosion prin lle bu ansicrwydd, roeddwn yn medru elwa o arbenigedd Canolfan Bedwyr ym Mangor, tîm cyfieithu cyfreithiol Llywodraeth Cymru a chadeirydd bwrdd golygyddol y gyfres, yr Athro Thomas Glyn Watkin. Rhaid cydnabod, hefyd, wrth gwrs, y ffordd odidog y paratowyd y tir gan Dr Robyn Lewis a’i eiriaduron cyfreithiol arloesol.”

Her fwy, yn ôl yr Athro Bush, oedd dylunio cynnwys y llyfr. Yn ddigon naturiol, mae gwerslyfrau traddodiadol am Gyfraith Gyhoeddus wedi’u hanelu at fyfyrwyr o Loegr, gyda’r ymdriniaeth o’r drefn ddatganoledig newydd o lywodraethu’r DU yn ymddangos fel ychwanegiad atodol i brif ffrwd y pwnc. Ond ym marn awdur y gyfrol gyntaf ar y pwnc yn yr iaith Gymraeg ni fyddai dilyn yr esiampl honno’n ymarferol nac yn briodol.

“Yn naturiol,” meddai, “rhaid i lywodraethiant Cymru fod wrth galon unrhyw driniaeth o gyfraith gyhoeddus yn Gymraeg. Ond mae Cyfraith Gyhoeddus Cymru’n bodoli o fewn cyd-destunau ehangach, yn enwedig y drefn gyfansoddiadol Brydeinig.” Yr unig ffordd i sicrhau cydbwysedd, ym marn yr awdur, oedd trwy osod Cyfraith Gyhoeddus Cymru nid yn unig tu fewn i fframwaith cyfreithiol yr ynysoedd hyn ond hefyd o fewn fframweithiau cyfreithiol Ewrop a’r byd.

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, “Rwy’n hynod falch o’r datblygiad cyffrous ac hanfodol hwn ym maes dysgu’r Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi’i arwain gan yr Athro Keith Bush. Mae gan Goleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe dîm cryf o rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru sy’n medru cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, a bydd y gyfrol hon yn fodd o rannu’r arbenigedd honno gyda myfyrwyr eraill ar hyd a lled Cymru sy’n astudio’r pwnc yn eu mamiaith.”  

Bydd defnydd o gyfres ‘Hanfodion y Gyfraith’, y mae Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus yn rhan ohoni, yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, trwy lyfrgell adnoddau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Y Porth. Ond gobeithia’r awdur y bydd modd, hefyd, i gyhoeddi fersiwn caled cyn bo hir. “Wrth gwrs,” meddai, “mae awdur unrhyw waith ar y Gyfraith yn ymwybodol iawn bod y maes yn datblygu ac yn newid bron o ddydd i ddydd. Ers i’r gyfrol gael ei llunio cafwyd datblygiadau pellgyrhaeddol iawn mewn Cyfraith Gyhoeddus. Deddfodd Senedd San Steffan i ddiwygio’r ffordd y diffinnir cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a hefyd i ledaenu sgôp pwerau datganoledig mewn sawl ffordd bwysig. Ac, wrth gwrs, mae holl bwnc Brexit wedi codi cwestiynau hollbwysig mewn perthynas â dyfodol cyfansoddiadol y DU ac wedi esgor ar un o’r dyfarniadau pwysicaf ers degawdau (achos Miller) ar derfynau’r uchelfraint Frenhinol. Os bydd ailgyhoeddiad o’r gyfrol yn digwydd, ar ba bynnag ffurf, bydd angen diwygio’r testun er mwyn sicrhau y bydd y deunydd sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg yr un mor gyfoes, os nad yn fwy cyfoes, na’r hyn a ddefnyddir gan eu cyd-fyfyrwyr Saesneg.”