Cynhyrchu Digidol
Yn ddiweddar, fel rhan o’r modiwl Cynhyrchu Digidol, cafodd myfyrwyr gyfle i gyflwyno eu syniadau ar gyfer prosiect trawsgyfryngol i rai o arbenigwyr y diwydiant; John Roberts, o BBC Radio Cymru, a Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
Mae’r grefft o werthu syniad creadigol yn elfen sy’n cael sylw yn y modiwl yma, ac yn cynnig profiad uniongyrchol i’r myfyrwyr o gyflwyno syniad i gynrychiolwyr o’r diwydiannau creadigol a chyfryngol ar y cyd, a chael adborth gwerthfawr ganddynt, nid yn unig ar botensial eu syniad ond ar eu cyflwyniad o’r syniad hefyd.
Ymysg y syniadau a gyflwynwyd oedd Bro Fy Mebyd, cyfres deledu,radio, gwefan ac ap sy’n darparu gwybodaeth i wylwyr am lefydd o ddiddordeb ledled Cymru sydd yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw. Yn ogystal, cafwyd syniad am gyfres deledu, radio, tudalen Facebook a gwefan sydd yn olrhain tri pherson ar eu siwrne o ymddeol.
Meddai Lorna Evans, un o’r myfyrwyr: “’Dwi wedi mwynhau’r broses o gyflwyno fy syniad yn fawr iawn. ‘Dwi’n siŵr y byddwn ni’n elwa’n fawr o’r profiad yn y dyfodol”.
Yn dilyn y sesiwn cyflwyno syniadau, bydd y myfyrwyr yn bwrw ati i greu a chynhyrchu elfennau o’u syniadau ar gyfer ail ran yr asesiad.
Meddai Dafydd Rhys: “Mae’r modiwl yma yn cynnig cyfle arbennig i fyfyrwyr, a rwy’n credu y dylai pob prifysgol gynnig rhywbeth tebyg. Mae atgyfnerrthu’r berthynas rhwng prifysgolion a’r diwydiant yn sicr o fudd i bawb”.
Am wybodaeth bellach am gyrsiau Cyfyngau Prifysgol Abertawe, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/academihywelteifi/cyrsiau-y-cyfryngau/