Rhestr bwced (a rhaw) Academi Hywel Teifi i lasfyfyrwyr cyfrwng Cymraeg
- Dewch i farbeciw Academi Hywel Teifi ar bnawn Sul 25ain o Fedi yng Nghanolfan Dwr a Thraeth 360 i gyfarfod â staff a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ac i fwynhau bwyd a diod am ddim!
- Sicrhewch eich bod chi’n pori trwy Llyfryn Modiwlau cyfrwng Cymraeg 2016-17 i weld y modiwlau y gellir eu hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe (bydd copïau caled ar gael yn y Ffair Groeso).
- Ymwelwch â Chanolfan Gymraeg Tŷ Tawe y ddinas sy’n cynnal gigs Cymraeg rheolaidd, ac sy'n gartref i gaffi, siop adnoddau Cymraeg a swyddfeydd Menter Iaith Abertawe.
- Galwch yn Verdi’s neu Joe’s i gael hufen ia a phenderfynu pa flas yw’ch ffefryn!
- Ymunwch gyda’r Gymdeithas Gymraeg (Y GymGym) er mwyn bod yn rhan o'r croliau neu nosweithiau cymdeithasol a'r tripiau blynyddol i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ac i’r Ddawns a’r ‘Steddfod Ryng-golegol!
- Ewch i weld y Swans neu’r Gweilch yn chwarae yn y Liberty - Abertawe yw prifddinas chwaraeon Cymru!
- Ymunwch â Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg i ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi fel siaradwyr Cymraeg i astudio a chymdeithasu.
- Dysgwch mwy am Dylan Thomas wrth ymweld â Chanolfan Dylan Thomas sy’n cynnig arddangosfa barhaol ar ei fywyd ac sy’n gartref i sawl digwyddiad llenyddol trwy gydol y flwyddyn
- Rhowch gynnig ar wersi syrffio gyda’ch ffrindiau ym Mhenrhyn Gwyr - ardal sy’n fyd-enwog am draethau o’r radd flaenaf.
- Ewch i Ben Pyrod yn Rhosili gyda rhywun arbennig – dyma'r lle a ddyfarnwyd “y mwyaf rhamantaidd er mwyn gweld yr haul yn machlud yn y DU” gan ddarllenwyr cylchgrawn Country Living.