Academi Cyflogadwyedd Abertawe

"Herio ein myfyrwyr i greu cyfleoedd i'r dyfodol"

Bydd Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn rym sylweddol i yrru tyfiant economaidd, trwy:

  • ddatblygu graddedigion tra medrus, talentog, a chyflogadwy gyda meddylfryd byd-eang
  • hyrwyddo sgiliau ac agweddau mentergar
  • cefnogi datblygu mentrau newydd
  • hyrwyddo dysgu gan staff

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn eich gwahodd CHI i gefnogi ein myfyrwyr trwy ddarparu cyfleoedd profiad gwaith perthnasol a diddorol, fel bod myfyrwyr yn dysgu i ymateb i, ac i addasu i, heriau, amgylchiadau a diwylliannau newydd.

Mae Academi Gyflogadwyedd Abertawe wedi penodi Hyrwyddwyr Cyflogadwyedd ym mhob Coleg, a byddant yn arwain tîm a fydd yn helpu myfyrwyr ar bob lefel astudio i gyflawni eu potensial- boed hynny trwy swydd, hunangyflogaeth neu astudiaethau pellach.

Bydd Academi Gyflogadwyedd Abertawe yn hyrwyddo mentrau newydd, yn arddangos arfer da, ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr wella eu sgiliau a chofnodi eu cyflawniadau trwy ddefnyddio'r Adroddiad ar Gyflawniad mewn Addysg Uwch.

Bydd yr 'Wythnos Gyflogadwyedd' flynyddol yn darparu gweithdai a digwyddiadau lle bydd myfyrwyr yn gwella eu sylfaen gadarn o alluoedd craidd i raddedigion, megis gwaith tîm, cyfathrebu, sgiliau cyflwyno, rheoli prosiectau a phroffesiynoldeb.

Bydd y myfyrwyr yn gallu dewis modiwlau 'Global Graduate' i'w hychwanegu at y cwricwlwm, fel eu bod yn datblygu gwybodaeth a ffordd fyd-eang o feddwl, ac ystwythder diwylliannol, dros ben y galluoedd craidd i raddedigion.

Lawrlwythwch yr agenda ar gyfer y lansiad yr Academi Cyflogadwyedd Abertawe.

Neges gan y Cadeirydd yr Academi

Rhai sy'n derbyn y Wobr Cyflogadwyedd Abertawe