Buddsoddi heddiw ar gyfer llwyddiant yfory

Mae'r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn sylweddol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi penodi bron i 100 o staff academaidd newydd ac arweiniodd adolygiad strategol diweddar at gamau a fydd yn sicrhau bod datblygiad Abertawe yn parhau: rydym wedi symleiddio ein strwythur rheoli ac wedi cyfuno sawl maes o weithgarwch academaidd i ganolbwyntio ar ein cryfderau.

Bellach mae 10 o Ysgolion gan y Brifysgol, sy'n rhoi gwir arweiniad academaidd ac sy'n gyfrifol am nifer o faterion strategol a gweithredol. Mae'r Ysgolion hefyd yn llywio gweithgarwch ymchwil y Brifysgol ac mae'r strwythur newydd wedi annog cynlluniau datblygu uchelgeisiol, ond realistig.
Y canlyniad yw sefydliad sy'n fwy rhagweithiol ac effeithiol ac sydd mewn gwell sefyllfa i wynebu heriau addysg uwch yn yr unfed ganrif ar hugain.