Mae'r Gwasanaethau Preswyl yn darparu llety ar gyfer bron i 3500 o fyfyrwyr. Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw llety yn llwyddiant pob un myfyriwr, ac rydym yn ceisio'n gorau glas i sicrhau fod ein holl lety yn cynnig amgylchedd croesawgar, diogel a chefnogol.
| Clearing Students - Please click here for more information |
|---|
Mae'r rhan fwyaf o'n hystafelloedd mewn amrywiaeth o neuaddau a phreswylfeydd sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer myfyrwyr, ac felly mae modd i chi ddewis y llety sy'n cyd-fynd orau â'ch anghenion. Gallwch hefyd ddewis pa mor hir rydych chi eisiau'r contract; ai en-suite neu rannu ystafell ymolchi; bwyd wedi'i baratoi'n rhannol i chi neu hunanarlwyo; byw ar y campws neu oddi arno. Mae gennym lety wedi'i benodi ar gyfer myfyrwyr anabl, ôl-raddedigion a myfyrwyr sydd â theuluoedd; rydym hefyd yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sydd am fyw gyda'i gilydd mewn cymuned Gymraeg ei hiaith. Rydym yn ceisio'n gorau i ddarparu llety sy'n addas i ddymuniadau pawb.
Yn ogystal, mae gan y Gwasanaethau Preswyl dîm ymroddedig sy'n rheoli eiddo preifat ar ran landlordiaid lleol. Gan mai eiddo o'r safon uchaf yr ydym yn ei dderbyn, maent yn boblogaidd iawn â myfyrwyr sy'n falch o annibyniaeth byw yn y sector preifat, ac eto'n gwerthfawrogi tawelwch meddwl cael rheolwr eiddo sy'n hynod gyfrifol.
Rydym yn rhoi pwysigrwydd mawr ar les myfyrwyr, gan gael cymorth rhwydwaith o wasanaethau cymorth rhyngysylltiedig. Mae'r gwasanaethau hyn yn amrywio o staff diogelwch 24 awr i Wardeniaid Lles y Brifysgol; o Swyddog Heddlu pwrpasol i lanhawyr sy'n hapus i loetran a chael clonc am broblemau'r dydd. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn byw yn llety'r Brifysgol eu hannog yn gryf i fanteisio ar ein harbenigedd ac i alw draw i gael cyngor a chymorth ynghylch llety a thai.
Rydym yn ymroddedig i barhau i godi safon ein llety a'n gwasanaeth, ac rydym wedi sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer safon yr ystafelloedd pan gyrhaeddwch. Yn sgil hyn, rydym wedi ymuno'n llawn â Chod Ymarfer Prifysgolion y Deyrnas Unedig ar gyfer Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae'r cod yn cadarnhau ac yn monitro ein perfformiad fel darparwr llety i fyfyrwyr, ac yn sicrhau y caiff y safonau uchaf eu cadw. Mae rhagor o fanylion am y cod ymarfer i'w gael yma: www.uukcode.info
Mae'r tudalennau hyn y We wedi'u cynllunio i'ch helpu â'ch holl ofynion llety. Boed chi'n fyfyriwr newydd eisiau gwneud cais am lety; yn byw yma nawr ac am roi gwybod inni fod rhywbeth wedi torri; neu'n ymwelydd sy'n chwilio am wybodaeth am wely a brecwast lleol, gobeithiwn y cewch yr ateb yr ydych yn chwilio amdano yma. Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, yna mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni, a byddem yn falch o'ch helpu.
Mae'r Datganiad Cenhadaeth, a nodir isod, yn cyflwyno ein hamcanion fel adran ac yn ategu ein haddewid i sicrhau buddiannau ein myfyrwyr, staff a phawb sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaethau Preswyl.
Ein nod yw darparu amrywiaeth o lety myfyrwyr sy'n addas ar gyfer anghenion pawb, ac sydd o'r safon uchaf posibl.
Wrth wneud hyn, rydym yn rhoi sylw i'r chwech o werthoedd craidd canlynol: