Swansea University - Myfyrwyr Ôl-radd

Myfyrwyr Ôl-radd

Mae cymuned ôl-radd fywiog yn CREW

Mae’r awyrgylch anffurfiol o fudd i fyfyrwyr ôl-radd a chânt eu hannog i gyfrannu at ddiwylliant ymchwil y Ganolfan. Yn ôl adroddiad diweddaraf yr arholwr allanol ar raglen ôl-radd CREW, roedd yno waith o safon a oedd ‘bron yn barod i’w gyhoeddi’, ceid adborth ysgolheigaidd ‘hynod gynhwysfawr’; ac yn gyffredinol, roedd yno ymdeimlad anghyffredin o ‘gyfrannu at ffurfiad y pwnc’.    

Mae CREW yn cynnig MAModern Welsh Writing in English a PhD Programme

Mae ôl-raddedigion yn elwa o weithgareddau ymchwil parhaus y Ganolfan, yn cynnwys:

  • Seminarau Ymchwil rheolaidd gan siaradwyr gwadd.
  • Cyfleoedd i gyhoeddi ymchwil gwreiddiol yn y Yearbook for Welsh Writing in English, sef prif gyfnodolyn academaidd y maes, sydd â chyswllt agos â’r Ganolfan.
  • Yn achlysurol, darperir ysgoloriaethau ar gyfer gwaith ôl-radd.
  • Rhaglen o ymweliadau gan ysgrifenwyr cyfoes (mewn cydweithrediad â’r rhaglen Ysgrifennu Creadigol): mae Christopher Meredith, Emyr Humphreys, Gillian Clarke, Jeremy Hooker, Menna Elfyn ac eraill wedi ymweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  • Cydweithredu ag Adran y Gymraeg, er mwyn galluogi myfyrwyr, pe baent yn dymuno, i gyfuno astudiaeth ar ddwy lenyddiaeth y Gymru fodern.
  • Cymryd rhan, trwy gyswllt rhwydwaith fideo, mewn trafodaethau gydag arbenigwyr o ganolfannau astudio eraill yn y maes hwn.
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Association for Welsh Writing in English, sef y corff sy’n goruchwylio ystod o weithgareddau ysgolheigaidd, gan gynnwys tair cyfres bwysig o gyhoeddiadau.

Cliciwch yma i weld cyhoeddiadau diweddar gan Ôl-raddedigion CREW a Chymdeithion Ymchwil y Ganolfan.

MA in Modern Welsh Writing in English:
Cynullydd, Yr Athro M. Wynn Thomas

Mae o leiaf dri o’r cyrsiau canlynol ar gael bob blwyddyn:

Dylan Thomas and the Idea of Welsh Writing in English
Locating Wales: Comparative Perspectives
Women Writing Modern Wales
‘American Wales’: Writing the Transatlantic
Welsh Identities: Literature and Nationhood

Valid XHTML 1.0 Transitional