Swansea University - Myfyrwyr ac Ysgolheigion Rhyngwladol

Myfyrwyr ac Ysgolheigion Rhyngwladol

Nod CREW yw gosod llenyddiaeth Saesneg o Gymru mewn cyd-destun rhyngwladol, er mwyn datblygu dulliau cymharol o ymdrin â llenyddiaethau Cymru ac i ddatblygu modelau damcaniaethol defnyddiol ar gyfer astudio llenyddiaeth Gymreig.

Caiff cwmpas rhyngwladol y Ganolfan ei feithrin â dwy fenter barhaus sy’n gysylltiedig â’i gilydd:

  • Datblygu cysylltiadau a pherthnasau rhyngwladol.            
  • Denu myfyrwyr rhyngwladol i’n rhaglenni ôl-radd, ac ysgolheigion i weithio yn y Ganolfan.

Mae cymdeithion CREW wedi cyflwyno papurau ar draws Ewrop, o Bratislava i Ddulyn, ac roedd gan y Ganolfan ran allweddol yn y gwaith o drefnu Cynhadledd NAASWCH 2006 (National American Association for the Study of Welsh Culture and History). Cafodd y cysylltiadau cryf a sefydlwyd gydag ysgolheigion a sefydliadau yn yr Unol Daleithiau eu cadarnhau yn ystod Pasg 2007, pan gynhaliwyd y gynhadledd arloesol: Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Gwledydd Celtaidd.

Mae gan CREW gysylltiadau â’r canlynol:

  • Rhaglen Astudiaethau Diwylliannau Rhanbarthol Prifysgol Klagenfurt (Awstria)        
  • Yr Adran Saesneg, Prifysgol La Corunna (Galisia, Sbaen) Canolfan Astudiaethau Cymreig Prifysgol Tübingen (Yr Almaen)
  • Sefydliad Longfellow, Prifysgol Harvard (UDA)            
  • Canolfan Astudiaethau Testunol a Chyfieithu, Prifysgol Dinas Dulyn (Iwerddon)   
  • Y Sefydliad Astudiaethau Gwyddelig, Prifysgol Lerpwl        (Lloegr) STAR (Scotland’s Transatlantic Relations), Prifysgol Caeredin (Yr Alban)
  • Sefydliad W. E. B. Du Bois ar gyfer Astudiaethau Affricanaidd ac Affro-Americanaidd, Prifysgol Havard (UDA).

Myfyrwyr Rhyngwladol 

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol. Caiff myfyrwyr rhyngwladol eu hannog i wneud cais i astudio yn CREW, i ddilyn naill ai rhaglen MA neu PhD. Os oes gennych ymholiad ynglyn â’ch cymhwyster, cysylltwch â Dr Daniel Williams yn gyntaf. Caiff myfyrwyr rhyngwladol brofiad cyflawn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hanes a diwylliant cyfoethog Cymru, ac agwedd y wlad at y byd heddiw, yn gyd-destunau pwysig ar gyfer astudio yn CREW. Ar ein cyrsiau MA, rydym yn canolbwyntio ar faterion trawsiwerydd, gan gynnwys perthynas UDA â Chymru, a’r cryfderau a’r gwendidau o osod llenyddiaeth Gymreig mewn cyd-destun ‘ôl-wladychol’, ac yn ymchwilio’r delweddau o Gymru a gaiff eu hallforio, trwy’r hyn a adlewyrchir mewn ystod o lenyddiaethau a ffilmiau rhyngwladol.

Yn CREW, mae pawb yn gwneud ymdrech arbennig i groesawu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, ac yn eu cynorthwyo i fod yn rhan bwysig o’n gweithgareddau ymchwil.

Dyma rai sylwadau gan gyn-fyfyrwyr:

Robert Jones, (2002-3):


international_students_1

Robert Jones (canol), gyda’r Gwir Anrhydeddus Peter Hain (chwith) a   Dr Daniel Williams (ar y dde) yn y Gynhadledd Canu Caeth, mis Mawrth 2007.

Yn ystod fy mlwyddyn MA yn CREW, cefais gyfle i astudio cyrsiau ar Ysgrifennu o Gymru yn Saesneg, Llenyddiaeth Affro-Americanaidd a Llenyddiaeth Gogledd Iwerddon. Datblygais ddiddordeb cryf yn Raymond Williams a James Baldwin – sy’n ddau ysgrifennwr uchel eu parch, y naill  o Gymru a’r llall yn Affro-Americanwr. Bu hynny’n  gymorth i mi weld tebygrwydd rhwng fy nghefndiroedd Affro-Americanaidd a Cheltaidd. Cefais hefyd gyfle unigryw i ddatblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned leol, yn enwedig fy eglwys, y myfyrwyr rhyngwladol, a phobl eraill yr wyf yn ymweld â hwy’n gyson hyd heddiw.      

Rwy’n parhau i ddefnyddio’r sgiliau astudio a’r sgiliau cymdeithasol a ddatblygais trwy fy mhrofiad o fynychu Prifysgol Abertawe fel Uwch Ysgrifennwr Technegol ar gyfer Cwmni Fortune 1000 yn America. Cefais un o uchafbwyntiau a manteision pennaf fy astudiaethau yn CREW y gwanwyn diwethaf pan gefais gyfle i fynychu cynhadledd ‘Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Gwledydd Celtaidd’. Mae dilyn rhaglen gyda CREW yn brofiad gwerthfawr a chwbl fuddiol.
                  

Alyce Von Rothkirch (PhD, 2001 – 4):

  international_students_2 Deuthum i Abertawe i wneud PhD mewn ysgrifennu o Gymru yn y Saesneg yn 2001. Cefais ysgoloriaeth gan Brifysgol Abertawe i gefnogi fy astudiaethau, ac o ganlyniad, bu modd i mi astudio ar drefniant amser llawn. Cefais arolygiaeth ardderchog gan yr Athro M. Wynn Thomas, a chefais flas aruthrol ar fod yn fyfyriwr PhD yn Adran Saesneg Abertawe. Yn wir, wnes i ddim gadael: rwyf nawr yn ddarlithydd yn yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion ar ben arall y campws. Rwy’n parhau i fod yn gysylltiedig â CREW ac rwy’n falch iawn o dderbyn cefnogaeth ac anogaeth o hyd gan staff CREW – a hynny, i raddau helaeth, sydd i’w gyfrif am y ffaith fy mod yn medru parhau â’m hymchwil yn y maes.

Gweler yn ogystal ein Cynllun Ysgolheigion Ymweliado

Valid XHTML 1.0 Transitional