Sefydlwyd CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) er mwyn cydlynu rhaglen ymchwil ar lefel uwch mewn maes astudio sy’n dod yn bwysicach o hyd, o ganlyniad i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.
Am bron i 2,000 o flynyddoedd, roedd cwlwm annatod rhwng diwylliant unigryw a Cymru a’r iaith Gymraeg. Ond o ganlyniad i dwf y Saesneg, a ddaeth yn iaith y ‘mwyafrif’ yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, datblygodd llenyddiaeth newydd yn y Saesneg. Ymhlith ffigurau blaenllaw'r llenyddiaeth hon, roedd Dylan Thomas, Margiad Evans, David Jones, R. S. Thomas, Raymond Williams, Gillian Clarke ac Emyr Humphreys.
Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, gellir ystyried bod y llenyddiaeth hon yn ategu llenyddiaethau eraill o’r tu allan i Loegr, yn yr "Ynysfor Eingl-Geltaidd” (Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban) ac yn enghraifft leol o’r llifeiriant byd-eang o lenyddiaethau ôl-wladychol yn y Saesneg.
Mae’r rhaglenni MA a PhD a gynigir gan CREW wedi’u gosod yng nghyd-destun nifer o fentrau ymchwil o bwys:
Yn ôl adroddiad diweddaraf yr arholwr allanol ar raglen ôl-radd CREW, roedd y myfyrwyr yn cynhyrchu ‘darnau arbennig o dda o lenyddiaeth a dadansoddiadau diwylliannol, a oedd bron yn barod i’w cyhoeddi’; ceid adborth ysgolheigaidd ‘hynod gynhwysfawr’; ac yn gyffredinol, roedd yno ymdeimlad anghyffredin o ‘gyfrannu at ffurfiad y pwnc’.